Mae 'Nod Sero' yn ymgyrch ar lawr gwlad i atal hunan-niweidio a hunanladdiad trwy godi ymwybyddiaeth a chreu cymuned gofod diogel lle mae pob un ohonom yn teimlo ein bod yn cael ein clywed, yn cael ein cefnogi a’n grymuso i geisio cymorth.
Mae atal hunan-niwed a hunanladdiad yn dechrau gyda thorri’r distawrwydd a’r stigma, a sicrhau nad oes neb yn dioddef ar ei ben ei hun. Mae gennych chi lais yn y gymuned hon ac mae'r gymuned hon yma i chi.
Cael Cymorth BrysGwybodaeth Bellach
Os ydych chi'n teimlo'n hunanladdol neu'n adnabod rhywun sy'n ystyried lladd ei hun
cliciwch ar y botwm am gymorth brys a chysylltiadau brys
Cael Cymorth Brys109 o Resymau i Aros yn Fyw
Dysgwch fwy am sut y gall Nod Sero greu cymuned ddiogel a chefnogol, ac am ragor o wybodaeth am gymorth iechyd meddwl ac atal hunanladdiad.
Cysylltwch â Ni
Mae Nod Sero yn cael ei gefnogi a’i ariannu’n rhannol gan y sefydliadau canlynol, a heb eu cymorth ni fyddai’r ymgyrch gymunedol hon yn bosibl.
